STIWDIO PANAD
Mae Stiwdio Panad yn gyfleuster recordio proffesiynol cyflawn yn arbenigo mewn recordiadau perfformiadau llais, acwstig a digidol o safon uchel. Yn ddelfrydol ar gyfer cantorion gyfansoddwyr, cynhyrchwyr digidol, ensembles bychain, mae Stiwdio Panad yn ddatrysiad perffaith ar gyfer artistiaid sy’n gobeithio recordio elfennau byw ynghyd ag offerynnedd wedi ei gynhyrchu’n ddigidol.
Wedi ei greu gan yr MC a Phencampwr Bitbocs Cymru amryddawn, Mr Phormula / Ed Holden, mae Stiwdio Panad yn cynnig gwasanaethau recordio / cynhyrchu unigryw yn ogystal ag amrywiaeth o weithdai addysgiadol yn ffocysu ar gynhyrchu cerddoriaeth / perfformiad a chyfansoddi. Perffaith ar gyfer artistiaid sy’n gobeithio rhyddhau cerddoriaeth yn broffesiynol neu berffeithio eu gwybodaeth am gynhyrchu.
Fel peiriannydd mae Ed yn dod â 20 mlynedd o brofiad cynhyrchu sain gydag arbenigedd penodol mewn recordiadau llais, Hip Hop, Drum ‘n’ Bass a cherddoriaeth dawns. Mae cydweithio gydag artistiaid fel Jacob Collier / KRS-ONE / Charlie Sloth yn amlinellu safon ac amrywiaeth dawn cynhyrchu cerddoriaeth Mr Phormula sy’n cydfynd â natur farddonol ei gelfyddyd.
Wedi’i leoli ynghanol tirwedd anhygoel Eryri, mae Llanfrothen yn bentref rhwng Porthmadog a Beddgelert, wedi ei guddio yng nghefn gwlad Cymru ond o fewn tafliad carreg i’r stryd fawr.
Mae’r holl wasanaethau’n cynnwys arbenigedd Ed ac mae ffioedd yn dechrau o –
Recordio a gwaith peiriannu – £20 yr awr / £150 y dydd
Cymysgu / Mastro – £20 yr awr / £100 y dydd
Gweithdai Addysg (Ma hyn yn amrywio yn ddibynnol ar ofynion yr artist – gellir gwneud hyn ar-lein neu wyneb yn wyneb)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ed i drafod dewisiadau a phosibiliadau
Rhestr offer –
Cymysgydd –
Tascam model 24
Monitoau –
Adam A7X’s
Yamaha NS10’s
Meicroffonau –
Neumann TLM 103
Shure SM7B
AKG C1000s
Shure SM57
Shure SM58
Senheiser E845
Rhyngwynebau a Meddalwedd –
RME Fireface UC
Mac efo Ableton Live 10 a Push 2
Wavelab 10
Waves VST Cyfan
Sugarbytes VST’s
Casgliad Fabfilter
Caledwedd a Preamps –
Focusrite ISA 1 Preamp
TL Audio A2 Stereo Tube Processor
Drawmer 1978 FET Compressor
Warm audio Bus Compressor
Handsome Audio Zulu
Ableton Push 2
Oto Biscuit Bit Reduction unit
Roland Space Echo Stomp box
Erica Synths Zen delay
Erica Synths Acid Box 3
Erica Synths Bassline DB-01
Waldorf 2pole filter
Roland VT3 Voice transformer
Roland RC-505 Loop Station.
Korg Kaoss Pad 3 and KP Mini
Synths –
Novation Bass Station
Yamaha AN1X
Novation A Station
Korg Volca Beats / Synth
MAM MB33 Retro bass Synth
Geode Meeblip
Arturia Microbrute
Modal Skulpt
Korg Monotribe
Pocket Operator KO / Tonic / Arcade
Numerous Guitar Pedals
LATEST NEWS:
"Dan yr enw Mr Phormula, mae Ed Holden yn fît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd sy'n perfformio hip hop Cymraeg ar lwyfan rhyngwladol."
cymraeg.llyw.cymru